Mae’r cerddor profiadol, Meredydd Morris, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Mercher diwethaf, 28 Awst.
Enw’r sengl newydd ganddo ydy ‘Beth Yn Y Byd’, ac mae nifer o gerddorion amlwg wedi cyfrannu at y trac sef Jaci Williams, Michael Brown, Aled Wyn Hughes a Llywelyn Ap Gwyn.