Mae trefnwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig wedi cyhoeddi enwau’r albyms syd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni.
Yn ôl yr arfer, mae 15 o recordiau hir wedi eu dewis ar gyfer y rhestr fer y tro hwn, ac ymysg rheiny mae pedwar albwm Cymraeg.
Un o’r albyms Cymraeg sydd ar y rhestr ydy ‘Mynd a’r Tŷ am Dro’ gan Cowbois Rhos Botwnnog, sef enillydd gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol fis diwethaf. Y recordiau Cymraeg eraill ydy ‘Dosbarth Nos’ gan Ynys, ‘Dim Dwywaith’ gan Mellt a ‘Bolmynydd’ gan Pys Melyn.
Mae cwpl o albyms eraill sy’n cynnwys caneuon Cymraeg ar y rhestr sef ‘Dollar Lizard Money Zombie’ gan HMS Morris a ‘Cool Head’ gan Georgia Ruth, sy’n golygu bod Georgia yn rhannu lle ar y rhestr gyda’i gŵr, Iwan Huws, sy’n aelod o Cowbois Rhos Botwnnog.
Ymysg recordiau eraill ar y rhestr hir mae albwm diweddaraf Gruff Rhys, ‘Sadness Sets Me Free’, ac albwm y band dwyieithog o Bontypridd, Chroma, sef ‘Ask For Angela’.
Sefydlwyd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2011 gan yr hyrwyddwr cerddoriaeth John Rostron a’r cyflwynydd radio Huw Stephens a dros y blynyddoedd ers hynny mae wedi datblygu i fod yn un o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol y calendr cerddoriaeth yng Nghymru.
Mae unrhyw albwm sydd wedi’i ryddhau gan artist Cymreig yn gymwys ar gyfer y wobr, ac fel arfer mae panel o feirniaid sy’n ymwneud â’r diwydiant yn dewis enillydd o’r rhestr hir sy’n cael ei lunio gan reithgor o bobl sy’n ymwneud â cherddoriaeth yng Nghymru.
Enillydd y wobr gyntaf yn 2011 oedd Gruff Rhys gyda’i albwm ‘Hotel Shampoo’ ac mae’r enillwyr ers hynny’n cynnwys Georgia Ruth, Gwenno, Meilyr Jones, The Gentle Good ac Adwaith.
Yn wir, enillodd Adwaith y wobr am yr eildro yn 2022 gyda’r albwm Bato Mato, a band Cymraeg arall, Rogue Jones oedd yr enillwyr diweddaraf gyda’r albwm ‘Dos Bebés’ yn 2023.
Mae modd gweld y rhestr fer lawn eleni ar wefan y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.
Bydd enw’r albwm buddugol eleni’n cael ei ddatgelu mewn seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar 8 Hydref.