Does dim amheuaeth fod Tesni Hughes yn un o’r artistiaid ifanc sy’n werth cadw llygad arni dros y misoedd a blynyddoedd nesaf.
Dyma chi artist sydd wedi gwneud enw’n raddol i’w hun wrth ollwng demos a senglau’n annibynnol ar-lein, ond sydd bellach mae’n ymddangos â chyfeiriad clir i’r hyn mae’n ei wneud.
Mae ganddi label, mae ganddi fand ac mae ganddi sengl newydd allan sy’n dangos ei hyder newydd.
‘Trefn’ ydy enw’r trac diweddaraf gan yr artist ifanc o Fôn ac mae allan ar label Inois.
Mae’r artist ifanc yn un o’r criw newydd o gerddorion sy’n dod i’r amlwg yn y Gogledd Orllewin ar hyn o bryd, ac hefyd yn un o’r nifer o artistiaid benywaidd hyderus sydd yn gwneud eu marc ar y sin Gymraeg.
Wrth drafod ei sengl ddiweddaraf gyda’r Selar, mae Tesni’n barod iawn i gyfaddef fod y trac yn un personol iawn iddi.
“Nes i sgwennu ‘Trefn’ i’r fi bach. Y fi oedd ddim ofn mynd a chwara football efo hogia…er nad oeddan nhw’n pasio i fi, y fi bach ath yn erbyn be oedd pobl yn credu” eglura Tesni.
“Nes i ‘sgwennu hi tua blwyddyn a hanner yn ôl oherwydd mod i’n ffed yp o bobl yn deud bod fi’n methu gwneud petha gan bod fi’n ferch ifanc!
“Dros y blynyddoedd yn tyfu fyny dwi wedi bod yn cael pobl yn fy nhynnu lawr gan fy mod i’n hoffi ac yn gwneud petha gwahanol o’i gymharu â lot o ferched oed fi. Yn yr ysgol oedd hi’n anodd gan fy mod i’n chwara lot fawr o bêl-droed ac felly roedd gan lawer iawn o blant, a phobl weithia, bethau negyddol iawn i ddeud am hynny.
“Felly dyna beth oedd wedi sbarcio’r syniad i sgwennu hi.”
Rhoi nerth i eraill
Mae’r gân yn neges i’r Tesni iau felly, ond mae’n gobeithio ei bod hefyd yn neges i ferched ifanc eraill ac y bydd hynny’n rhoi rhywfaint o nerth iddynt hwythau.
“Mae bod yn ferch ifanc yn anodd iawn ar adega’, dwi’n teimlo bod gan rywun wastad rywbeth i ddeud am unrhyw beth ‘da chi’n ceisio ei gyflawni oherwydd o bod o slightly yn wahanol i’r ‘drefn’ arferol” meddai Tesni.
“Dwi’n gobeithio y gwneith y gân yma gyrraedd rhywun sydd angen ei ychlwed hi, ac angen cael eu hatgoffa mai chi ydy chi ac y dylia chi wneud be da chi’n garu, dim ots be!”
Dywed Tesni bod y sengl newydd yn wahanol iawn i’w cherddoriaeth blaenorol, a bod y diolch am hynny i’w band, lle yn y gorffennol bu’n perfformio a recordio’n bennaf yn unigol.
“Dwi’n teimlo bod cael y band tu ôl i mi yn rhoi agwedd mwy pwerus i’r gân, a dwi’n meddwl bod chi’n gallu clywed faint o fwynhad sydd ynddi!
“Dwi’n edrych ymlaen i chwara ‘Trefn’ yn fyw gyda’r band dros yr haf, ac yn ddiolchgar iawn iawn i bawb sydd wedi dangos cefnogaeth hyd yn hyn.”