Parry-Williams yn ddylanwad ar sengl ddiweddaraf Ffos Goch

Un o feirdd enwocaf Cymru ydy’r prif ddylanwad ar sengl ddiweddaraf Ffos Goch, sydd allan nawr. 

‘Blino’ ydy enw’r trac newydd gan Ffos Goch ac mae’n ddarn sydd â naws dywyll, atmosfferaidd iddo yn ôl y cerddor. 

Mae geiriau’r gân yn seiliedig ar gerdd o’r gyfrol ‘Hen Benillion’ a olygwyd gan T.H. Parry-Williams, ond yn lle cyfeirio at y byd amaethyddol, mae’r darn yn canolbwyntio ar gyflyrau meddyliol cyferbyniol.

Daw Stuart Estell o Redditch, Swydd Gaerwrangon, ac mae wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf

Dechreuodd Ffos Goch fel rhan o benwythnos i ddathlu Datblygu a ddigwyddodd yn Llanbedr-Pont-Steffan ym Mehefin 2022. Mae Stuart wedi ymwneud ag amrywiaeth eang o brosiectau cerddorol dros y blynyddoedd, yn gynnwys canu gwerin, piano clasurol, a deuawd tiwba doom metal ORE. 

Ers dechrau rhyddhau caneuon dan yr enw Ffos Goch mae’r cerddor wedi bod yn hynod gynhyrchiol ac wedi rhyddhau cerddoriaeth yn rheolaidd. Daw’r sengl newydd lai na mis ar ôl iddo ryddhau’r EP Celanedd / Rhinwedd’.

Mae ‘Blino’ allan yn ddigidol ar y llwyfannau arferol, gan gynnwys safle Bandcamp Ffos Goch

Dyma ‘Blino’:

Gadael Ymateb