Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaethon ni eich cyflwyno chi i’r artist newydd cyffrous o’r gogledd, Maddy Elliott.
Mae cynnyrch cyntaf Maddy allan ers wythnos diwethaf ar label Recordiau Aran – EP sy’n cynnwys y traciau ‘Torra Fi’ a ‘Gwahanol’.
A hithau’n dod o bentref Llanfair Talhaiarn ger Abergele, mae Maddy newydd gwblhau blwyddyn o weithio yn y diwydiant cerddoriaeth fel rhan o’i gradd gerdd ym Mhrifysgol Efrog.
I gydfynd â phrif drac yr EP, mae fideo arbennig wedi’i gynhyrchu ar gyfer ‘Torri Fi’ sydd wedi’i gyfarwyddo gan Meilyr Rhys a’i ariannu gan Gronfa Fideos Lŵp a PYST.
Mae’r trac wedi’i ddylanwadu arno gan gerddoriaeth pop yr 1980au, ac mae’n hawdd gweld hynny gyda’r sŵn synth cryf sydd ar y trac. Mae ’na deimlad digon retro 80au i’r fideo hefyd – mwynhewch, fe wnaethon ni!