Fis ar ôl rhyddhau eu halbwm newydd, mae’r ddeuawd cerddorol arbrofol, Peiriant, wedi rhyddhau un o draciau’r albwm fel sengl.
Peiriant ydy prosiect y ddeuawd Rose Linn-Pearl a Dan Linn- Pearl ac fe ryddhawyd eu record hir, ‘Dychwelyd’, ar 5 Gorffennaf.
Nawr mae’r band amgen wedi rhyddhau’r trac ‘Cân Idris’ fel sengl i atgyfnerthu’r albwm sydd wedi cael ymateb da hyd yma, gan gynnwys adolygiad pedair seren gan The Guardian.
Mae’r sengl newydd allan yn y mannau arferol ers dydd Gwener 5 Gorffennaf ac mae’n ddilyniant i’r sengl arall, ‘Taflu Dŵr’ a laniodd fis cyn rhyddhau’r albwm.
Deuawd fiolyn a gitâr trydan ydy Peiriant sy’n arbrofi gyda melodïau amrywiol i greu cerddoriaeth atmosfferig a soundscape. Mae’r band hefyd yn defnyddio offer electronig, samplau ac offer maent yn digwydd dod ar eu traws i ychwanegu at eu darnau rhannol fyrfyfyr.
Mae Rose Linn-Pearl yn rhannu ei hamser rhwng chwarae’r fiolyn a gweithio fel milfeddyg, tra bod Dan Linn-Pearl yn gyfansoddwr, ac artist sŵn.
Mae Dychwelyd yn archwilio’r broses o ddychwelyd i’r tarddiad. Mae’n tyfu o’r profiad o ddod adref, a dychwelyd i dirlun a diwylliant. Dychwelyd i wreiddiau er mwyn magu teulu ifanc. Y Mynyddoedd Ddu ym Mannau Brycheiniog sy’n gosod y ffrâm i dirlun Peiriant – bryniau hynafol amrwd a rhydd sy’n cysylltu’r prosiect trwy’r oesoedd a gyda synnwyr o le.
Mae Rose a Dan Linn-Pearl yn tynnu ar eu seiliau mewn cerddoriaeth werin a chlasurol, ynghyd ag ôl-roc, a chelf sain finimalaidd i greu cerddoriaeth arbrofol sydd wedi’i angori mewn tirlun Cymreig.