Cowbois Rhos Botwnnog, gyda’u halbwm ‘Mynd a’r tŷ am dro’ ydy enillwyr teitl ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024’.
Dyfernir y wobr yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a chyhoeddwyd mai nhw oedd yr enillwyr eleni ar ddydd Gwener yr Eisteddfod ym Mhontypridd wythnos diwethaf.
‘Mynd a’r tŷ am dro’ ydy chweched record hir y band sy’n arbrofi gyda cherddoriaeth werin, gwlad a roc amgen, ac mae’n dilyn ‘Yn Fyw! Galeri Caernarfon’ a ryddhawyd y llynedd.
Cafodd yr albwm ei recordio yn Stiwdio Sain, Llandwrog, gyda’r brodyr eu hunain yn cynhyrchu.
Maen nhw wedi teithio’n helaeth yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys Lloegr, yr Alban, Iwerddon, yr Ariannin, y Ffindir a Fietnam ac wedi chwarae mewn gwyliau fel Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Wakestock, No Direction Home, Eisteddfod Genedlaethol a Focus Wales.
Y tu allan i’r band, mae aelodau unigol wedi teithio gydag artistiaid fel Gruff Rhys, Gwenno a Georgia Ruth, gan ymddangos yng ngŵyl Glastonbury, Latitude, Hyde Park, Primavera a Gŵyl Kala Ghoda ym Mumbai.
Derbyniodd yr enillwyr dlws a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y wobr eleni gan Tony Thomas, crefftwr yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae’r wobr, a drefnir gan yr Eisteddfod a BBC Radio Cymru, yn dathlu’r cymysgedd eclectig o gerddoriaeth Gymraeg a recordiwyd ac a ryddhawyd yn ystod y flwyddyn.
Mae’r enillwyr yn cael eu dyfarnu gan banel o arbenigwyr o’r diwydiant cerddorol, a’r panel beirniaid eleni oedd eleni oedd Gruffudd Jones, Tomos Jones, Gwenno Morgan, Keziah O’ Hare, Mared Thomas ac Owain Williams.
Roedd deg o albyms amrywiol wedi cyrraedd y rhestr hir eleni sef:
- Amrwd – Angharad Jenkins a Patrick Rimes
- Bolmynydd – Pys Melyn
- Caneuon Tyn yr Hendy – Meinir Gwilym
- Dim dwywaith – Mellt
- Galargan – The Gentle Good
- Llond Llaw – Los Blancos
- Mynd â’r tŷ am dro – Cowbois Rhos Botwnnog
- Sŵn o’r stafell arall – Hyll
- Swrealaeth – M-Digidol
- Ti ar dy ora’ pan ti’n canu – Gwilym