Mae’r band rockabilly o’r gorllewin, Pwdin Reis, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 2 Awst.
‘Os ti moyn dawnsio ’da fi’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Reis.
Mae’r band wedi adeiladu dilyniant cryf ar ôl gigio’n gyson ac mae natur heintus eu cerddoriaeth rockabilly yn siŵr o wneud i chi fod eisiau dawnsio.
“Odi chi erioed wedi hoffi rhywun sydd â dim diddordeb ynoch chi o gwbl? Wel ymunwch â’r clwb achos dyna yw’r stori tu ôl i gân diweddara’ Pwdin Reis” meddai’r band.
“Sai’n bod yn gas, ond sorta fe mas, os ti moyn dawnsio ’da fi” yw’r llinell yn y gytgan ac mae’n crynhoi’r neges gyfarwydd i’r mwyafrif ohonom.”
Yr un yw’r fformiwla gerddorol a’r un aelodau gwreiddiol sydd yn y band hyd heddiw sef Norman Roberts ar y ‘slap bass’, Betsan Evans, y prif leisydd pwerus, Rob Gillespie ar y drymiau a Neil Rosser ar y gitâr Gretsch oren.