Mae’r grŵp roc profiadol, Celt, yn barod am haf prysur o gigio ac i gyd-fynd â’r perfformio bydd cerddoriaeth newydd sbon yn cael ei ryddhau.
Rhyddhawyd y sengl, ‘Yr Esgus Perffaith’, ddydd Gwener diwethaf, 21 Mehefin, fel rhagflas o’u halbwm newydd fydd allan fis Gorffennaf.
Yn cadw’n driw i sain unigryw y grŵp, mae ‘Yr Esgus Perffaith’ yn gân am hogyn sy’n chwilio am reswm neu esgus i beidio disgyn mewn cariad â merch ond mae’r ferch ym mhobman mae’n edrych ac nid yw’n hawdd ei hosgoi hi na’i deimladau tuag ati.
Mae rhyddhau’r sengl ddiweddaraf eleni yn nodi 35 mlynedd ers i Celt ryddhau eu record gyntaf, ‘Da ‘Di’r Hogia’, yn 1989.
Gwibiodd y blynyddoedd heibio a bu Celt yn brysur yn rhyddhau cerddoriaeth ac yn gigio ar hyd yr amser, ac mae dau o’r aelodau gwreiddiol yn dal yn rhan o’r grŵp – Steven Bolton a Barry ‘Archie’ Jones. Ymunodd Martin Beattie yn y blynyddoedd cynnar a daethpwyd i adnabod sain gerddorol Celt fel roc a baledi hwyliog ac apelgar gyda harmoni Steven Bolton a Martin Beattie yn taro deuddeg.
Dyma’r tro cyntaf ers rhyddhau’r albwm ‘@.com’ ar label Sain yn 1998 i Steven a Martin ganu gyda’i gilydd ar recordiad. Yn ymuno ag Archie, Steven a Martin ar y caneuon newydd mae Sion Richards (bas), Dion Hughes (drymiau) Sion Bailey a Neil Roberts (gitârs) a Huw Smith ar yr allweddellau.
Bydd Celt yn perfformio yn nifer o wyliau mawr a phoblogaidd Cymru dros yr haf, gan gynnwys Roc y Ddôl ym Methesda, Sesiwn Fawr Dolgellau, Tafwyl, Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf a Sioe Môn.