Sengl newydd TeiFi

Mae’r cerddor a chynhyrchydd TeiFi wedi rhyddhau ei sengl newydd.  

‘Llif’ yw’r trac diweddaraf gan TeiFi a’r gyntaf mewn cyfres o senglau fydd yn arwain at ei halbwm cyntaf yn 2025.

Mae TeiFi yn gerddor o Dde Cymru sy’n plethu sawl dylanwad gwahanol i mewn i dapestri Cymreig cyfoes. 

“Mae ‘Llif’ yn drac trip hop Cymraeg sy’n sôn am wynebu’ch ofnau a dod o hyd i’ch llif chi’ch hun” meddai TeiFi am ei sengl newydd.  

“Mae’n ymwneud â’r eiliadau tawel hynny lle mae ysbrydoliaeth yn dal gafael.”

Mae ‘Llif’ allan ers 15 Tachwedd ar label Recordiau Teifiverse.

 

Gadael Ymateb