Rhyddhau albwm cyntaf Dadleoli

Mae’r band ifanc addawol o Gaerdydd, Dadleoli, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 26 Gorffennaf. 

‘Fy Myd Bach i’ ydy enw’r record hir newydd sydd allan ar label JigCal. 

Ers i Dadleoli ffurfio fel rhan o brosiect ‘Yn Cyflwyno’ yn Tafwyl 2022, mae’r pumawd, Efan, Caleb, Jake, Jac a Tom wedi bod yn brysur yn rhyddhau cyfres o senglau ac EP gan ennill llu o gefnogwyr brwd. 

Yn ogystal â’r holl ysgrifennu a recordio, maent wedi gigio dros Gymru gyfan, yn cefnogi artistiaid fel Bwncath, Dafydd Iwan a Candelas, gan chwarae ar rai o brif lwyfannau’r wlad gan gynnwys Maes B a Triban. Er hynny, daeth uchafbwynt y band yn ddiweddar wrth iddynt berfformio i oddeutu 2,000 o bobl ar brif lwyfan Tafwyl. 

Ar gefn y perfformiad hwnnw mae’r band o Gaerdydd nawr yn barod i ryddhau eu LP cyntaf. Daw’r albwm llawn yn dilyn cyfres o senglau, ynghyd â’r EP, ‘Diwrnodau Hâf’ a ryddhawyd flwyddyn yn ôl, ym mis Gorffennaf 2023.

Er i gyfartaledd oedran y band fod yn ddim ond 18 oed, mae eu sain wedi aeddfedu ac mae’r grŵp yn amlwg wedi ffeindio’u traed drwy blethu alawon bachog, riffs pigog, a geiriau ffres sy’n adlewyrchu a chysylltu gyda’r Cymry ifanc. 

“Mae’r albwm yma yn crynhoi’r band a’r aelodau” meddai’r prif ganwr, Efan. 

“Mae’r gwahanol arddulliau a straeon yn arwain y gynulleidfa drwy eu byd bach nhw, a dyna ble ddaeth teitl yr albwm. 

“Ni’n edrych ‘mlaen i chwarae’r caneuon newydd yma ym Maes B a llwyth o lefydd eraill dros yr haf, ac wedyn bydd parti mawr i ddathlu yng Nghlwb Ifor Bach ar Fedi’r 19eg!”

Bydd cyfweliad gyda Dadleoli yn rhifyn newydd Y Selar sydd allan erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Prif Lun: Nia Teifi Rees