Mae dau frawd talentog o Lansannan wedi cyd-weithio ar sengl newydd o’r enw c.
Ffrwyth cyd-weithio’r cerddor amlwg, Morgan Elwy, a’i frawd bach Eban Elwy ynghyd â’r cynhyrchydd Pen Dub ydy’r trac newydd.
Mae Morgan yn artist amlwg a phoblogaidd ers sawl blwyddyn bellach ar ôl dechrau ei yrfa gerddorol gyda’r band Trŵbs, cyn mynd ymlaen i berfformio a recordio fel artist unigol yn fwy diweddar.
Erbyn hyn mae Eban Elwy yn dilyn ôl traed ei frawd mawr ac yn brif ganwr y band ifanc TewTewTennau.
Nid dyma’r tro cyntaf i Morgan gyd-weithio gyda’r DJ a chynhyrchydd Pen Dub chwaith – mae’r ddau wedi gweithio ar y cyd ar y traciau ‘Tywysog Ni’ a ryddhawyd yn 2021, ac yna ‘Fel Hyn’ a ryddhawyd ar label Bryn Rock y flwyddyn ganlynol.
Mae Morgan a Pen Dub yn creu miwsig reggae Cymraeg ac yn darparu nosweithiau reggae a dub yn aml ledled Cymru a thu hwnt gyda chriwiau Soundsystem lleol fel HiFi Tŷ Coch, Porthdinllaen.
Yn ogystal, mae Pen Dub yn rhan o fand roots roc reggae Morgan Elwy ac wedi cael haf prysur yn teithio yn dilyn rhyddhau’r albwm ‘Dub yn y Pub’.
Ar y sengl newydd mae’r brodyr yn galw am weithred dros heddwch ar y trac dub yma. Bydd fersiwn offerynnol gan Pen Dub yn cael ei ryddhau law yn llaw â’r brif sengl.
Rhyddhawyd y trac ar ddydd Gwener 26 Gorffennaf ar Recordiau Bryn Rock, sef y label sy’n cael ei redeg gan y brawd arall, Jacob Elwy.
Dyma’r fideo ar gyfer y trac: