Rhyddhau albwm Peiriant – Dychwelyd

Mae’r ddeuawd cerddoriaeth arbrofol, Peiriant, wedi rhyddhau rhyddhau eu halbwm newydd ers dydd Gwener diwethaf, 5 Gorffennaf. 

Dychwelyd ydy enw’r record hir gan Peiriant, sef prosiect Rose Linn-Pearl a Dan Linn Pearl.

Roedd y ddau wedi rhyddhau sengl o’r albwm, ‘Taflu Dŵr’ fel tamaid i aros pryd fis yn ôl. 

Deuawd fiolyn a gitâr trydan ydy Peiriant sy’n arbrofi gyda melodïau amrywiol i greu cerddoriaeth atmosfferig a soundscape. Mae’r band hefyd yn defnyddio offer electronig, samplau ac offer maent yn digwydd dod ar eu traws i ychwanegu at eu darnau rhannol fyrfyfyr.

Mae Rose Linn-Pearl yn rhannu eu hamser rhwng chwarae’r fiolyn a gweithio fel milfeddyg, tra bod Dan Linn-Pearl yn gyfansoddwr, ac artist sŵn. 

Mae Dychwelyd yn archwilio’r broses o ddychwelyd i’r tarddiad.  Mae’n tyfu o’r profiad o ddod  adref, a dychwelyd i dirlun a diwylliant. Dychwelyd i wreiddiau er mwyn magu teulu ifanc. Y Mynyddoedd Ddu ym Mannau Brycheiniog sy’n gosod y ffrâm i dirlun Peiriant – bryniau hynafol amrwd a rhydd sy’n cysylltu’r prosiect trwy’r oesoedd a gyda synnwyr o le. 

Mae Rose a Dan Linn-Pearl yn tynnu ar eu seiliau mewn cerddoriaeth werin a chlasurol, ynghyd ag ôl-roc, a chelf sain finimalaidd i greu cerddoriaeth arbrofol sydd wedi’i angori mewn tirlun Cymreig.  

Eisoes, mae’r albwm wedi cael ymateb da gan gynnwys adolygiad pedair seren a theitl ‘Albwm Gwerin y Mis’ yn The Guardian

Dyma’r trac ‘Carreg’ o’r albwm:

Llun: Mairead McHugh