Rhyddhau Senglau Sain yn ddigidol

Mae’r holl senglau a ryddhawyd gan label Recordiau Sain rhwng 1969 a 1990 bellach ar gael yn ddigidol. 

Mae’r newyddion yn barhad o brosiect Sain i rannu cerddoriaeth eu harchif eang ar y llwyfannau digidol arferol. 

Eisoes rhyddhawyd y senglau cynnar yn ddigidol, ond bellach mae modd gwrando ar y senglau i gyd, sy’n cynnwys amrywiaeth eang o gerddoriaeth ac artistiaid. 

Wedi eu recordio ar wahanol gyfnodau rhwng ffurfio’r label ar ddiwedd y 1960au nes 1990, mewn lleoliadau ledled Cymru, gan gynnwys stiwdios Sain, mae’r senglau a ryddhawyd yn cynnwys rhai o sêr pop cynnar y label, o’r record gyntaf eiconig honno gan Huw Jones, ‘Dŵr’, a senglau cyntaf Dafydd Iwan, Meic Stevens, Heather Jones ac Eleri Llwyd ar Sain i enwau mwy diweddar fel Y Cyrff, Brodyr Gregory a Caryl Parry Jones. 

Yng nghyfnod canu gwleidyddol y 1970au roedd senglau grwpiau Ac Eraill, Y Chwyldro a Y Nhw yn boblogaidd iawn ac yn cyd-eistedd yn gyfforddus gyda chanu llawn hiwmor Y Tebot Piws a’r Dyniadon Ynfyd. Mae lleisiau hudolus Sidan a’r diweddar Eirlys Parri yn rhan o senglau’r 1970au hefyd, yn ogystal â chanu gwerin a cherdd dant Parti’r Ffin, Triawd Menlli ac Einir Wyn. 

Daeth sain newydd gyda senglau’r 80au ac arddull wahanol cantorion fel Rhiannon Tomos yn torri tir newydd. Daeth ton newydd o grwpiau poblogaidd megis Angylion Stanli, Trydan, Clustie Cŵn a Jaffync a’r senglau yn gwerthu wrth i’r grwpiau berfformio ar hyd a lled y wlad. 

Yn ail hanner y 1980au gwelwyd recordiau cyntaf Y Brodyr Gregory a chafwyd caneuon cymeriadau unigryw Caryl Parry Jones o’i chyfres deledu ar sengl – pwy all anghofio dehongliadau cerdd dant Glenys a Rhisiart, rapio Delyth Wyn a’r gri emosiynol yn y gân ‘Does na neb yn anfon blodau i Lavinia’?

Ymysg y senglau olaf i’w rhyddhau, cyn cyfnod poblogaidd y record hir, roedd recordiau Rohan, Louis a’r Rocyrs, y grŵp merched Pryd ‘Ma Te, caneuon plant apelgar Cwm Rhyd y Chwadods a llais arbennig Ruth Barker. Daeth sengl Y Cyrff, ‘Cadwyni / HTV/BBC’ allan ar sengl Sain yn 1987 ac yn 1990, fersiwn newydd o ‘Dwylo Dros y Môr’.

Bellach mae modd mynd yn ôl i’r cyfnod difyr hwn o ryddhau senglau dwy, tair, pedair a phum cân, a chlywed caneuon ac artistiaid sy’n newydd i’r platfformau digidol.