Rhyddhau albwm Pys Melyn

Mae Pys Melyn wedi rhyddhau casgliad newydd arbennig o ganeuon.

Fel Efeilliaid ydy enw’r albwm diweddaraf gan y band seicadelig o Lŷn.

A hwythau wedi ryddhau eu halbwm diwethaf, ‘Bolmynydd’, ychydig dros flwyddyn yn ôl ym mis Awst 2023, mae pedair ar ddeg o ganeuon ar y record newydd.

“Braf cyhoeddi bydd casgliad o ganeuon yn dod allan pythefnos i fory (10/9)” meddai’r band ar eu ffrwd Twitter.

“8 can offerynol (Yn cynnwys y cyfansoddiad anfarwol “plismyn drwg a cŵn peryglus”) a 6 o ganeuon o grombil hard drive Ceiri (megis yr ysgytwol “Hold on, dafydd john”, a “beryg bywyd (efo beiro).”

Mae’r Selar wedi bod yn sgwrsio gyda’r band, ac mae’n debyg Yn ôl y band, rhyddhau’r albwm yn ddigidol yn unig fyddan nhw am y tro. Mae’r band yd awgrymu bydd y casgliad ar eu safle Bandcamp ryw ben, ond does dim tystiolaeth o hynny eto…ond mae i’w ganfod ar Spotify.