Y Selar yn cyflwyno…Maddie Elliott

Cwpl o wythnosau yn ôl roedd cyfle cyntaf ecsgliwsif i chi weld y fideo ar gyfer sengl gyntaf Maddy Elliott yma ar wefan Y Selar. Ond pwy yn union ydy’r artist newydd addawol yma sydd newydd ryddhau ei chynnyrch cyntaf ar label Recordiau Aran? Penderfynodd Y Selar gael sgwrs fach gyda hi i ddysgu mwy…
Daw Maddy o bentref bach Llanfair Talhaiarn, sydd ar lôn yr A548 rhwng sy’n cysylltu trefi Llanrwst ac Abergele. Dyma ardal sydd wedi cynhyrchu tipyn o artistiaid cerddorol yn ddiweddar wrth gwrs gan gynnwys y brodyr Jacob a Morgan Elwy, Mared Williams ac y band TewTewTennau yn fwyaf diweddar.
“Nes i fynd i ysgol gynradd yn Llanfair Talhaiarn a wedyn [Ysgol Uwchradd] Creuddyn yn Bae Penrhyn” eglura Maddy wrth Y Selar.
Mae Maddy newydd orffen yn yr ysgol, a daw’n amlwg yn syth wrth sgwrsio ei bod o ddifrif ynglŷn â dilyn gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth
“Cymerais i flwyddyn allan yn y diwydiant i weithio yn stiwdio Aran er mwyn gael profiad gwaith cyn mynd yn ôl i Prifysgol Efrog blwyddyn nesaf i gorffen fy ngradd yn Cerddoriaeth a Recordio Sain” eglura.
“Dechreuodd fy nghariad at gerddoriaeth yn y  theatr gerdd. Roeddwn mewn ysgol celfyddydau perfformio o’r enw “Stagecoach” ers pan oeddwn yn 8, lle buom yn dawnsio actio a chael gwersi canu.”
Daw’n amlwg hefyd bod cerddoriaeth yn y gwaed, ac mae hynny’n amlwg wedi dylanwadu arni…
“Oedd taid fi hefyd yn ganwr efo ei chwaer a dwi’n cofio fo’n canu i mi pan oeddwn i’n fach.”

Dylanwad synths yr 80au

Mae’n amlwg iawn bod Maddy o ddifrif ynglŷn â’i cherddoriaeth, ac mae’r sengl ddwbl gyntaf yn awgrymu bod rhywbeth diddorol, ac addawol iawn ar y gweill ganddi.
“Fysen i’n disgrifio fy ngherddoriaeth i fel jazzy, melodaidd, bach yn 80’s synth era” meddai Maddy wrth ddisgrifio ei sŵn.
“Un o artistiaid gorau fi di Kate Bush a dwi’n meddwl mae hynne’n i’w weld yn fy ngherddoriaeth.
“Oedd yr synth riff sy’n chwarae yn y gytgan [‘Torra Fi’] di cael dylanwadu gan gân o enw ‘Cherry’ gan y Chromatics.
“Mae yna ddolen synth arswydus sy’n dilyn drwy’r gân ac roeddwn i eisiau ceisio dal rhywbeth tebyg,  a wnes i lwyddo i wneud hynny nai peidio yn fater gwahanol.”

Mwy i ddod

Wrth drafod yr hyn sydd i ddod ganddi, dywed Maddy y gallir disgwyl “bach o offerynnau pres, llinellau bas grwfi ac egni uchel yn fy nhraciau cyntaf.”
Ac mae’n bosib y bydd cyfleodd i’w gweld yn perfformio’n fyw yn fuan hefyd gydag ambell gig wedi eu bwcio ganddi.
“Fyddai’n chwarae mewn rhai marcedi a pubiau o gwmpas gogledd Cymru, a fyddwn ni’n chwarae yn Gŵyl 7 [yn Llanfair Talhaiarn] ar 14 Medi…sydd bach yn ofnus ond cyffrous” cyfaddefa.
Mae’n bur amlwg bod Maddy Elliott yn artist sydd â syniadau clir ynglŷn â’r hyn mae am ei wneud, a gallwn obeithio gweld mwy o gerddoriaeth ganddi yn y dyfodol wrth iddi barhau i weithio gydag Emyr Rhys yn Recordiau Aran.
“Dwi’n dali weithio efo Emyr ar draciau erall sydd ar ei ffordd, dwi’n gobeithio i cario ’mlaen ysgrifennu a recordio cerddoriaeth i cyd-fynd hefo astudiaeth flwyddyn nesaf” meddai Maddy.
“Wedyn, ar ôl graddio, dwi’m yn siŵr, ond dwi’n sicr bod dwi’sho gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg yn sicr.”
Un i gadw llygad arni’n sicr, a gyda lwc byddwn ni’n gweld mwy o gerddoriaeth newydd yn glanio gan Maddy Elliott yn fuan. Am y tro, dyma’r fideo ar gyfer y trac ardderchog ‘Torra Fi’: