Rhyddhau EP cyntaf Ifan Rhys

Ifan Rhys ydy’r artist newydd diweddaraf i ryddhau cerddoriaeth trwy label Inois. 

Bydd Ifan yn gyfarwydd i rai fel chwaraewyr gitâr fas, a chanwr y band Orinj. 

Er hynny, Hadau ydy ei EP cyntaf fel artist unigol. 

Dywed Ifan Rhys ei fod yn dwyn dylanwad gan fandiau roc amgen Cymraeg eraill fel Mellt ac Ellis Derby, ac mae’r EP newydd yn cynnig blas o’r byd amgen melyn mae’r cerddor un ei grefftio.

Mae Ifan wedi bod yn prysur wneud enw dros y flwyddyn ddiwethaf gan chwarae gydag artistiaid Cymreig fel Y Niwl, Elis Derby a Maes Parcio yn ogystal â llwyth o waith sesiwn a chyfansoddi caneuon. 

Rhyddhau record yn annisgwyl

Wedi’u recordio’n gynharach yn y flwyddyn eleni mae 7 cân hunangynhyrchedig ‘Hadau’ yn cynrychioli casgliad cyntaf Ifan o ganeuon unigol ac yn rhoi cip i ni ar ei agwedd egni uchel at gyfansoddi caneuon a dylanwadau amrywiol. 

Daeth yr EP yma i fodolaeth bron yn annisgwyl wrth i Ifan gydweithio gydag ei gyd-aelod Orinj, Liam Trohear-Evans.

“Cafodd yr EP ei sgwennu a’i recordio o fewn y flwyddyn dwythaf i gwaith prifysgol Liam, y technegydd tu ôl i’r miwsig, ond ar ôl clywed y caneuon roedd o’n glir bod rhain angen cael eu rhyddhau i’r byd” eglura Ifan. 

“Dwi isho diolch i Liam am recordio y caneuon i gyd efo fi ac i Dave Hirst o Palm Tree Studios am mixio a mastro yr EP.”  

Mae Ifan wrthi’n dod a band byw at ei gilydd ar hyn o bryd er mwyn dechrau gigio gyda’r deunydd newydd o’i EP a chaneuon eraill sydd heb eu rhyddhau eto. Gyda gwaith newydd i ddilyn yn fuan iawn, ni fydd rhaid aros yn hir cyn clywed mwy o gerddoriaeth eto gan Ifan Rhys. 

Mae caneuon Ifan eisoes wedi dal llygad y byd cerddorol wrth iddo gyrraedd y pedwar olaf yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Gyda’r cewri roc Chroma ac Alffa ymysg enillwyr y gorffennol, mae Ifan yn siŵr o adael ei farc wrth gystadlu a pherfformio ar brif lwyfan yr ŵyl. 

Ifan yn ffeinal Brwydr y Bandiau

Dywed Ifan ei fod yn teimlo’n gyffrous am y cynlluniau sydd ar y gweill ganddo, ac am y ffaith ei fod wedi rhyddhau Hadau.

“Mae’n deimlad mor braf cael rhyddhau yr EP yma ar ôl oria’ o weithio arno, dwi mor falch bydd pobl yn gallu gwrando arnyn [y caneuon]” meddai Ifan. 

“Dwi’n edrych ymlaen i gael gweld be mae pobl yn meddwl a dwi’n gobeithio bydd o yn rhoi bach o ddylanwad i bobl eraill sgwennu caneuon eu hunain.”

Bydd cyfle i weld Ifan yn cystadlu yn rownd derfynol Brwydr y Bandiau ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ar 7 Awst.

Dyma’r trac ‘Tyrd Nôl i Lawr’ o’r EP: