Ynys yn rhyddhau Dosbarth Nos

Mae Ynys wedi rhyddhau eu halbwm newydd, Dosbarth Nos, ers dydd Gwener diwethaf, 12 Gorffennaf. 

Cyn rhyddhau’r albwm llawn, fe wnaeth y band rannu un tamaid bach olaf i aros pryd ar ffurf y sengl ‘Shindig’ ar ddydd Mercher 10 Gorffennaf.

Dros y ddeufis diwethaf, mae’r grŵp wedi rhannu dwy sengl Gymraeg, ‘Aros Amdanat Ti’ a ‘Gyda Ni’ gan ennill cefnogaeth gan Craig Charles a Huw Stephens ar BBC Radio 6 Music, NME a Bandcamp.  

Mae ‘Dosbarth Nos’, yn dilyn albwm cyntaf y band a gafodd ei enwebu ar gyfer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2023. Wedi’i recordio’n fyw dros gyfnod o bedwar diwrnod yn Stiwdio Mwnci yng Ngorllewin Cymru, mae’r albwm yn amlygu esblygiad cerddorol Ynys – gan gofleidio palet sain llawer mwy egnïol ac anturus gyda threfniannau deinamig, diddorol.  

Ers rhyddhau’r albwm mae’r grŵp wedi denu adolygiadau ffafriol iawn gan gynnwys un ar Music Blog Wales ac yn Joyzine.

Mae ’na fideo gwych arall wedi glanio ar YouTube label Recordiau Libertino hefyd ar gyfer y sengl ddiweddaraf, ‘Shindig’