Mae’r band newydd o Gaerdydd, Taran, wedi rhyddhau eu EP cyntaf ar label JigCal.
Ffurfiwyd y grŵp union flwyddyn yn ôl drwy gynllun ‘Yn Cyflwyno’ Tafwyl, ac maent wedi cyflawni llawer iawn mewn amser byr.
Maent wedi gigio’n gyson, rhyddhau dwy sengl, ‘Pan Ddaw’r Nos’ a ‘Barod I Fynd’, ymddangos ar flaen cylchgrawn Golwg, a bellach maent hefyd wedi rhyddhau eu EP cyntaf, ‘Dyweda, Wyt Ti….’.
Pan mae Rose, Zelda, Rhys, Nat a Steff yn dod at ei gilydd i gyfansoddi, maent yn amlwg yn tynnu i’r un cyfeiriad, gan greu caneuon egnïol, bachog a ffres.
“Mae’r geiriau’n cyfleu’r emosiwn a thristwch mae rhywun yn teimlo pan ddaw perthynas i ben. Rwy’n credu bydd llawer o bobl ifanc yn gallu uniaethu â’r neges” meddai Rose Datta, sef prif ganwr y band wrth ddisgrifio ‘Ble Mae’r Broblem?’, trydydd trac yr EP.
“Mae’r gân yn dechrau fel baled ond mae’r darn pontio pwerus yn ailgynnau’r fflam roc sy’n nodweddiadol o steil Taran. Fel arfer, pan dwi’n sgwennu geiriau dwi’n tynnu ar gyfuniad o brofiadau personol a phethau dwi wedi darllen neu weld mewn ffilmiau”.
Steff ydy drymiwr Taran, ac aelod ieuengaf y band, ac mae’n gobeithio bydd rhyddhau’r EP yn ymestyn cyrhaeddiad y band i gynulleidfaoedd newydd.
“Does dim byd gwell na pherfformio o flaen cynulleidfa fyw” meddai Steff.
“Mae tipyn o ddilyniant gyda ni erbyn hyn a’r gobaith yw bydd yr EP yn denu cynulleidfa newydd!”
Recordiwyd a chymysgwyd yr EP yn Stiwdio JigCal gan Mei Gwynedd.
Gigs Taran
05 Awst – Eisteddfod Genedlaethol
23 Awst – Gŵyl Crug Mawr
26 Awst – Coleg y Drindod Dewi Sant
28 Medi – Gŵyl Newydd
Dyma’r fideo ar gyfar y trac ‘Pan Ddaw’r Nos’ sydd wedi’i gyfarwyddo gan Cai Thomas: