Mae fideo ar gyfer y trac ‘Pwythau’ gan Alffa wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C. Rhyddhaodd y ddeuawd roc o Lanrug ‘Pwythau’ fel sengl nôl ym Mehefin 2023.
Mae’r grŵp , sydd wedi gweld eu cerddoriaeth yn cael ei ffrydio dros 8 miliwn o weithiau bellach, wedi bod yn mynd o nerth i nerth yn ddiweddar ac eisoes wedi mynd a ‘Pwythau’ i gynulleidfa ryngwladol diolch i ymddangosiad yng Ngŵyl Morborock yn yr Eidal a taith lwyddianus i wyl NXNE Canada ym mis Mehefin.
Wedi’i gynhyrchu gan Gethin Pearson, mae ‘Pwythau’ yn garreg filltir newydd i Alffa a’r iaith Gymraeg, gan barhau â’u harfer o greu cerddoriaeth ddylanwadol ac arloesol. Mae’r fideo wedi’i gynhyrchu a chyfarwyddo gan Aled Wyn Jones.