‘Dance Again’ yn flas pellach o albwm newydd Alffa

Wrth baratoi i ryddhau eu halbwm newydd, mae’r ddeuawd roc o Lanrug, Alffa, wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Dance Again’. 

Mae pethau’n dechrau poethi i’r band wrth iddynt gyhoeddi’r drydedd sengl oddi ar eu halbwm newydd, O’r Lludw / From Ashes, fydd yn cyrraedd ar 29 Tachwedd eleni. 

Yn dilyn llwyddiant ‘Pwythau’ a ‘Breathe Free’, enw’r sengl newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh ydy ‘Dance Again’. 

Yn ymdrin â themâu sy’n ymwneud â chymhlethdodau bywyd a derbyn ti dy hun, mae ‘Dance Again’ yn drac gonest ac amrwd a’n adeiladu ar sain pync nodweddiadol y ddeuawd. 

Gyda dryms ffrwydrol Siôn Eifion Land a gitâr ymosodol Dion Jones yn gweddu’r llais yn berffaith, mae natur anthemig y trac yn cyferbynnu gyda’i neges obeithiol. 

“Wrth ddewis i gofleidio’r heriau sy’n cael eu symboleiddio gan y glaw, mae’r weithred o ddawnsio yn dod a rhyddhad pwerus, gan leddfu’r straen ac adnewyddu’r ysbryd” eglura’r band. 

“Mae’r gân yma’n sefyll allan fel darn canolog ar yr albwm, gan grynhoi’r thema gyffredinol o ddod o hyd i gryfder a chysur mewn cyfnod anodd.”

Gadael Ymateb