Mae cerddor Cymraeg o Califfornia, Pawlie, wedi rhyddhau ei sengl gyntaf yn y Gymraeg ers dydd Gwener diwethaf, 29 Mawrth.
‘Americanwr Balch’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Meatloaf Records.
Canwr-gyfansoddwr o Santa Barbara ydy Pawlie sydd wedi bod yn cyfansoddi a recordio cerddoriaeth ers y 1990au, ac sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2022.
“Mae ‘Americanwr Balch’ yn broc tafod-yn-y-boch ar agweddau Americanaidd y dyddiau hyn” eglura Pawlie am y trac cyntaf yn ei iaith fabwysiedig.
“Ar ôl treulio mis yn teithio o amgylch Cymru’r gwanwyn diwethaf, gwnes i lawer o ffrindiau newydd a chwrdd â phobl o’r un meddylfryd a rannodd fy marn ar drywydd presennol America.
“Teimlais gysylltiad â Chymru bron ar unwaith, a dechreuais feddwl tybed a fyddai gwrandawyr yn mwynhau clywed Brit o Galiffornia….yn cymryd y p**s allan o America…yn y Gymraeg” ychwanega’r cerddor sydd â dinasyddiaeth dwbl rhwng Prydain ac America.
“Dechreuais weithio ar delynegion Cymraeg i ‘Proud American’ o fy albwm 2021 a disgynnodd pethau i’w lle’n gyflym. Gobeithio bydd pobl yn chwerthin ac yn gwerthfawrogi’r neges tafod-yn-y-boch, sarcastig. Dyw hon ddim yn gân wladgarol!”
Ar ôl cael ei fagu yn Lloegr, symudodd Pawlie i America gyda’i deulu. Mae’n chwarae’r gitâr ers yn 13 oed a thyfodd ei ddiddordeb yn gyflym gyda phob agwedd ar gyfansoddi, perfformio a recordio. Arweiniodd hyn yn y pen draw at Brifysgol Califfornia yn Santa Barbara, lle astudiodd beirianneg drydanol fel llwybr i gynhyrchu sain. Mae Pawlie yn gweithio fel athro peirianneg, ond mae ei obsesiwn â cherddoriaeth yn parhau o hyd.
Er mai ‘Americanwr Balch’ ydy ei gân gyntaf yn y Gymraeg, mae Pawlie’n hen gyfarwydd â chreu cerddoriaeth ac wedi bod wrthi’n cyfansoddi ers 1990 gan dynnu ar ddylanwadau yn y genres roc, pop, jazz, gwerin a blaegar.
Mae wedi rhyddhau pedwar albwm hyd yn hyn sef ‘Pawlie’ ym 1994, ‘The Small Time’ (1998), ‘Little Green Man’ (2011) ac ‘An Ape’s Progress’ (2021). Mae ei ddylanwadau’n cynnwys Todd Rundgren, Neil Finn, Joni Mitchell, The Fixx, Yes Genesis, Camel a mwy.
Ar ôl rhyddhau ‘Americanwr Balch’ mae Pawlie yn bwriadu cyfansoddi rhagor o ganeuon yn y Gymraeg, ynghyd â ffilmio fideo ar gyfer y sengl yn yr haf.