Mae’r cerddor Rhys Llwyd Jones wedi rhyddhau yr ail sengl dwyieithog oddi ar ei albwm canu gwlad fydd yn dilyn yn fuan.
‘Not Me / Yn Cymryd Dim Byd o Ddifri’ ydy enw’r trac sydd allan yn ddigidol ar safle Bandcamp y cerddor profiadol.
Daw’r sengl ddiweddaraf yn dynn ar sodlau’r sengl ddwy-ieithog gyntaf o’r albwm, ‘Lost Love Blues / Cwpledi’, a ryddhawyd ddechrau mis Hydref.
Dywed Rhys mai enw ei albwm newydd ydy ‘You Cut, I Choose’ ac y bydd allan cyn diwedd y flwyddyn eleni.