Mae tocynnau gŵyl Llanast Llanrwst bellach ar gael i’w prynu.
Cyhoeddwyd yn ddiweddar y byddai’r ŵyl flynyddol yn cael ei chynnal ar benwythnos 29 Tachwedd i 1 Rhagfyr eleni.
Un o uchafbwyntiau’r penwythnos ydy’r gig a gynhelir ar y nos Wener gyda Tara Bandito a Morgan Elwy yn perfformio.
Mae modd archebu tocynnau ar gyfer y noson yma ar-lein bellach am £15 yr un.