Bydd un o gigs mwyaf yr hydref, sef y Ddawns Ryng-golegol flynyddol yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ar 23 Tachwedd.
Cynhelir y digwyddiad sy’n denu undebau myfyrwyr Cymraeg o ledled Cymru a thu hwnt yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ers blynyddoedd maith bellach, ac mae’n cael ei weld fel un o gigs mwyaf tymor yr hydref gan artistiaid.
Ac mae’r arlwy’n sicr yn drawiadol gydag Yws Gwynedd, Y Cledrau, Pys Melyn a Mynadd i gyd yn perfformio.
Mae tocynnau ‘bargen gynnar’ ar werth nawr am £13, gyda’r pris llawn yn £15.