Y rapiwr L E M F R E C K oedd enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni wrth i’w albwm ‘Blood, Sweat & Fears’ fachu’r wobr o £10,000 am yr albwm orau wedi ei greu yng Nghymru neu gan bobl o Gymru o gwmpas y byd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Wedi ei ddylanwadu gan brofiadau’r unigolyn 30 mlwydd oed yn ystod ei fagwraeth yng Nghasnewydd, yn ymgorffori ei wreiddiau fel artist sesiwn efengyl, ei amser fel cynhyrchydd yn y sin grime tanddearol, i’w drochiad presennol yn sîn gerddoriaeth lewyrchus De Llundain, mae’r record fuddugol yn llawn dop o fregusrwydd, gonestrwydd a phrofiadau bywyd.
Datgelwyd y newyddion mewn seremoni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd nos Fawrth diwethaf, 8 Hydref ac roedd y cerddor yna i dderbyn y wobr gan y cyflwynydd Siân Eleri.
“Diolch i fy mam a fy nhad – wrth dyfu i fyny fel person du ifanc, roedden nhw wastad yn dweud wrthyf fy mod i’n gallu gwneud unrhyw beth” meddai L E M F R E C K wrth dderbyn y wobr.
“Mae hwn i fy nghymuned yng Nghasnewydd. Os byddwn i heb weld Benji (Webbe sydd ar y rhestr fer gyda’r artist Skindred) yn ei wneud o’n gyntaf dw i’n dweud wrthoch chi nawr fyddwn i heb allu gwneud hyn, felly hoffwn ddiolch iddo ef.
“Hoffwn drafod pa mor bwysig yw cynrychiolaeth… nid yw’n dic bocs pan fydd artistiaid fel fi yn ennill gwobrau fel hyn – mae’n gadarnhad o’r gelf.”
“Albwm anhygoel”
Dyma’r 14eg tro i’r wobr gael ei dyfarnu ac roedd y rhestr fer o 15 artist hefyd yn cynnwys albwm yr artist reggae Aleighcia Scott ‘Windrush Baby’ a Skindred, enillydd yr act amgen orau yng Ngwobrau MOBO 2024 am eu halbwm a ddaeth yn rhif 2 yn siartiau’r DU ‘Smile’.
Y seremoni wobrwyo oedd y digwyddiad cyntaf fel rhan o Ŵyl Llais eleni hefyd, sy’n rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.
Roedd Aleighcia Scott, Gruff Rhys, CHROMA, HMS Morris a’r ennillydd L E M F R E C K ymhlith y perfformwyr byw yn y digwyddiad, yn ogystal ag enillwyr gwobr Trisgell; ADJUA, WRKHOUSE a VOYA.
Enillwyd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig y llynedd gan y ddeuawd bop o Sir Gâr, Rogue Jones, sef y cantorion-gyfansoddwyr priod Ynyr Ifan a Bethan Mai, a fachodd y wobr am eu hail albwm ‘Dos Bebés’.
Sefydlwyd y wobr gan y DJ Huw Stephens a’r hyrwyddwr John Rostron ac fe’i cefnogir gan Cymru Greadigol, Cyngor Caerdydd, PRS for Music, PPL a Help Musicians, ac mae’n rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.
“Llongyfarchiadau enfawr i L E M F R E C K ar ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024” meddai Huw Stephens.
“Mae ‘Blood, Sweat & Fears’ yn albwm anghygoel sydd wedi derbyn clôd gan y beirniaid am ei weledigaeth ac uchelgais. Mae pob albwm ar y rhestr fer yn unigryw, a gobeithiwn bod y wobr yn uwcholeuo gwaith gwych ein cerddorion.”
Rhestr er lawn y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2024:
- Aleighcia Scott – Windrush Baby
- Angharad – Motherland
- Buzzard Buzzard Buzzard – Skinwalker
- CHROMA – Ask for Angela
- Cowbois Rhos Botwnnog – Mynd â’r tŷ am dro
- Elkka – Prism of Pleasure
- Georgia Ruth – Cool Head
- Gruff Rhys – Sadness Sets Me Free
- HMS Morris – Dollar Lizard Money Zombie
- L E M F R E C K – BLOOD SWEAT & FEARS
- Mellt – Dim Dwywaith
- Pys Melyn – Bolmynydd
- Skindred – Smile
- Slate – Deathless
- Ynys – Dosbarth Nos
Dyma raglen Curadur, Lŵp, o 2021 a roddodd sylw arbennig i L E M F R E C K: