Ar ôl cyfres o senglau i aros pryd, mae Georgia Ruth wedi rhyddhau ei halbwm diweddaraf, Cool Head.
Cafwyd blas cyntaf o’r record hir newydd nôl ym mis Mawrth eleni gyda’r sengl ‘Driving’, cyn i’r trac ‘Duw neu Magic’ lanio’n fuan wedyn ddiwedd mis Ebrill. Mae senglau pellach, ‘Chemistry’ a ‘Tell Me Who I Am’ wedi dilyn ers hynny wrth i ni ddisgwyl yn eiddgar am y record hir lawn.
I gyd-fynd â’r albwm, mae Georgia hefyd wedi cyhoeddi ei nofel gyntaf, sy’n rhannu teitl y sengl ddiweddaraf, ‘Tell Me Who I Am’. Wedi’i hysgrifennu yn ystod y cyfnod clo, mae’r nofel yn adrodd hanes cerddor atgofus – Jude Lewis – sy’n dychwelyd i’w ardal enedigol yn Sir Gaerfyrddin ac yn cael ail gyfle, mewn mwy nag un ffordd.
Ysgrifennwyd yr albwm flwyddyn ar ôl i’w gŵr a chyd-gerddor, Iwan Huws, fod yn ddifrifol o sâl ac mae Georgia’n disgrifio’r record fel gyrru’n hir trwy’r nos ac i mewn i’r bore. Mae’r teitl Cool Head yn dod o ymadrodd oedd yn cael ei ddefnyddio gan ei thad i annog meddwl clir, ac mae’r albwm yn cyflwyno casgliad o ganeuon gonest a theimladwy sy’n tyfu o ystod eang o ddylanwadau Americana i faledi gwerin o’r 60au.
Recordiwyd yr albwm yn Stiwdio Sain, Llanwrog ac mae’r cyfranwyr yn cynnwys Iwan Huws (Cowbois Rhos Botwnnog), Stephen Black (Sweet Baboo), Gwion Llywelyn (Aldous Harding) a Rhodri Brooks (Melin Melyn). Mae cyfraniadau pellach gan Euros Childs, Gruff ab Arwel, Angharad Davies, Angharad Jenkins a Patrick Rimes.
Mae’r albwm wedi’i gynhyrchu gan Iwan Morgan.
Mae Cool Head wedi’i ryddhau ar ffurf CD a recod feinyl dwbl trwy label Bubblewrap. Dyma bedwerydd albwm Georgia Ruth hyd yn hyn a’r nofel ‘Tell Me Who I Am’ ydy ei chyntaf.
Dyma gyfweliad fideo difyr gyda Georgia’n trafod yr albwm sydd wedi’i gyhoeddi gan Lŵp: