A hithau wedi rhyddhau ei sengl ddwbl gyntaf ym mis Mehefin eleni, mae’r artist dwy-ieithog Llinos Emanuel wedi dychwelyd gyda thrac newydd sbon a ryddhawyd ar 4 Medi.
‘Lover of Mine’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan yr artist a lwyddodd i greu cryn argraff gyda’i chynnyrch cyntaf yn gynharach yn y flwyddyn.
Mae ‘Lover of Mine’ yn ddilyniant i’r sengl ‘Golden / Unlle’ a gafodd gymeradwyaeth o sawl rhan o’r byd. Roedd ‘Unlle’ yn drac yr wythnos ar BBC Radio Cymru, a’r fersiwn Saesneg, ‘Golden’, ar restr y ‘Welsh A List’ gan BBC Radio Wales. Llwyddodd hefyd i ddenu sawl adolygiad positif yn America a Brazil yn ogystal ag yn y DU.
Mae ‘Lover of Mine’ wedi adeiladu ar lwyddiant ‘Unlle’ ac yn treiddiol i deimladau sy’n aml yn rhy boenus i’w hwynebu. Wrth wrando cawn ein tywys gan gôr o leisiau arallfydol, gyda Llinos yn ymrafael â’r disgwyliadau sydd mewn perthynas.
Cafodd y trac ei chyd-gynhyrchu gan Llinos Emanuel ei hyn a Barnabas Poffley ac mae’r gantores yn plethu synau jazz a gwerin gyda naws dorcalonnus, wedi’u gwau â haenau o harmonïau lleisiol.
Y newyddion da pellach ydy y gallwn ni ddisgwyl mwy o gerddoriaeth gan Llinos yn fuan, gyda chynlluniau i ryddhau sengl Gymraeg fis Tachwedd eleni.