Sengl newydd Celavi

Mae’r band metal o Fangor, CELAVI, yn ôl gydag anthem cathartig newydd sbon sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 13 Medi. ‘IODINE’ ydy enw sengl ddiweddaraf y band sydd allan ar label MERAKI.  Sarah a Gwion sydd y tu ôl i CELAVI ac maent yn plethu dylynwadau metal, goth, diwydiannol, electro a roc i greu sŵn cwbl unigryw. Wastad yn barod i wthio ffiniau ac arbrofi, mae CELAVI wedi derbyn cefnogaeth gan Alyx Holcombe ar raglen BBC Introducing Rock yn ddiweddar, yn ogystal ag ar raglen Future Alternative (Nels Hylton) ar BBC Radio 1.

Gonest. Swnllyd. Chaotic. Mae ‘IODINE’ yn cyfleu dicter a rhwystredigaeth prif leisydd y band, Sarah, wedi diagnosis diweddar o glefyd awto-imiwn. Mae’r riffs ffyrnig, y lleisiau meddwol a’r dryms gwyllt yn adlewyrchu’r panig, ofn a’r ansicrwydd a brofodd Sarah wrth iddi frwydro yn erbyn ei salwch. 

“Mae ‘IODINE’ yn gân fregus sy’n mynegi’r ofn es i drwyddo” meddai Sarah.

“Mae fy nghyflwr yn cael ei fonitro a dwi’n teimlo’n llawer gwell, ond ar y dechrau roeddwn yn teimlo’n ofnus ac yn rhwystredig bod fy nghorff fy hun yn troi yn fy erbyn. Mae’r gân yn gatharsis i mi.”

Y newyddion pellach ydy bydd EP newydd hir disgwyliedig CELAVI, a gynhyrchwyd gan Romesh Dodangoda, gyda chefnogaeth Help Musicians, yn cael ei ryddhau ym mis Hydref 2024.

 

Gadael Ymateb