Sengl newydd Achlysurol

Mae’r band o’r Felinheli, Achlysurol, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf sy’n ragflas o record fer newydd y grŵp. 

‘Llwyd ap Iwan’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh. 

“Mae ‘Llwyd ap Iwan’ yn adrodd hanes anifail wedi’i stwffio gyda gwlân a fferins, a ddaeth o dramor gyda nain dau o aelodau’r band pan oedden nhw’n ifanc, ond sy’n parhau i fod yn aelod pwysig o’r teulu hyd heddiw” eglura’r band. 

Achlysurol ydy triawd sy’n cynnwys y brodyr Aled ac Ifan Emyr, a’u ffrind Ifan Rhys Williams. Ymunodd y band â label Côsh yn hydref 2023 ar ôl cyhoeddi cerddoriaeth gyda label JigCal cyn hynny. 

Bydd EP newydd yn dilyn fis nesaf a bydd yn cynnwys senglau diweddaraf y band, cân newydd sbon yn ogystal ag ailgymysgiad arbennig. 

Tan hynny, mae ‘Llwyd ap Iwan’ yn damaid i aros pryd ac yn enghraifft berffaith o ryddmau egnïol a chwareus Achlysurol.