Alffa’n cynnig blas o’u halbwm newydd

Wrth i ddyddiad rhyddhau albwm nesaf Alffa agosáu, mae’r ddeuawd o ogledd Cymru yn rhannu’r blas olaf o’r hyn sydd i ddod gyda’u sengl ddiweddaraf, ‘Find Me’.

O’r Lludw / From Ashes fydd enw albwm newydd Alffa ac mae’r sengl yn adeiladu ar themâu cyffredinol yr albwm sy’n ymwneud â chymhlethdodau bywyd.

Mae ‘Find Me’ yn tywys ei gwrandawyr i fyd gwbl newydd gan gyfleu’r frwydr barhaus i dderbyn ti dy hun.

Yn gerddorol, mae’r trac yn sŵnami o synau gyda’i riffs tanllyd a’r dryms ymosodol. Bydd yr albwm, O’r Lludw / From Ashes, yn dilyn ar 29 Tachwedd ar Recordiau Côsh Records.