Casi’n rhyddhau fersiwn newydd o gân Heather

Mae label Recordiau Sain wedi rhyddhau sengl newydd gan y gantores Casi. 

Trefniant arbennig o’r gân ‘Dyddiau a Fu’ ydy’r sengl newydd, sef trac a ymddangosodd gyntaf ar albwm Heather Jones, ‘Mae’r Olwyn yn Troi’, nôl yn 1974.

Wedi ei chyfansoddi gan Heather ei hun a Geraint Jarman, mae’r fersiwn newydd yn dathlu hanner can mlynedd ers rhyddhau’r albwm cyntaf hwn gan Heather, ac yn ddathliad hefyd o’i chyfraniad enfawr i’r byd cerddorol yng Nghymru. 

Gyda chyfeiliant gitâr celfydd Gwilym Bowen Rhys, trefniant llinynnol cwbl hyfryd gan Owain Llwyd a lleisio hudolus Casi, dyma deyrnged hyfryd i gân sy’n llawn hiraeth a swyn y gorffennol, ac i artist sydd wedi bod mor amlwg ar ein sîn gerddorol ers ganol y 1960au.