Mae’r artist addawol, Leigh Alexandra, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 12 Gorffennaf.
‘Lovers Den’ ydy enw’r trac newydd gan y cerddor sydd ag angerdd tuag at gerddoriaeth ddawns electronig a steil ’sgwennu unigryw.
Yn cyfleu agweddau bregus drwy guriadau a rhythmau cysurus, mae ei sengl newydd, mae ‘Lovers Den’ yn ddilyniant i’w sengl Gymraeg ddiweddar ‘Hafan i’m Hiraeth’.
Yn gwahodd gwrandawyr i gysylltu mewn modd cwbl agored, mae ‘Lovers Den’ yn ein cludo i le pell.
Ysgrifennwyd y gân dan leuad lawn yn ystod oriau mân y bore yn 2020 a’i gynhyrchu gan Dai Griff.