Sengl ‘Traeth Vitrual gan M-Digidol

Mae’r artist electronig cyffrous M-Digidol wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf. 

‘Traeth Virtual’ ydy enw’r trac newydd ganddo sydd allan ar y label recordio electronig, HOSC.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn fawr i M-Digidol, gyda Rhun Gwilym yn cychwyn ar ei daith fel artist electroneg, yn rhyddhau ei drac cyntaf efo HOSC ym mis Medi 2023.

Ers hynny, mae ei weithgarwch wedi bod yn amlwg, yn rhyddhau’r albwm ‘Swrealaeth’ ym mis Ebrill.

Cafodd honno ei derbyn yn wych gan y diwydiant, ac ym mis Awst, ac fe gafodd o’r fraint o fod ar restr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf. 

Mae M-Digidol yn parhau i greu cerddoriaeth fel mater o hanfod yn ôl ei label, ac mae HOSC yn falch o gael bod yn rhan o ddatblygiad yr artist cyffrous o Wynedd. 

 

Gadael Ymateb