Trac Nadoligaidd National Milk Bar

Mae’r band dwy-ieithog o Fachynlleth, National Milk Bar, wedi rhyddhau trac Gymraeg Nadoligaidd.

‘Pluen Eira’ ydy enw’r sengl gan y ddeuawd electronig, sef Sasha Jacobs a Jason Childs.

Mae’r gân hon yn darlunio bytholrwydd gaeafau hir, tywyll Celtaidd gyda llais gemog Sash yn awgrymu tirwedd hudolus dan flanced o eira” meddai’r band am y trac newydd.

Mae’r sengl ddiweddaraf yn ddilyniant i’w EP, ‘Superhero’, a ryddhawyd ym mis Medi eleni.

Yn ôl y band, bydd EP arall yn dilyn yn fuan dan yr enw ‘Gwdihŵ’, fydd yn cael ei ryddhau ar 6 Rhagfyr. 

 

Gadael Ymateb