Galwad am artistiaid record feinyl Selar3

Mae Y Selar yn paratoi i ryddhau trydedd record yn ein casgliad o recordiau feinyl aml-gyfrannog i aelodau Clwb Selar.

Glaniodd record Selar1 ar ddechrau’r 2023, ac sydd ar gael yn ecsgliwsif i aelodau Clwb Selar yn y lle cyntaf. Ers hynny rydym hefyd wedi rhyddhau record Selar2 dros haf 2024, eto, yn escgliwsif i aelodau Clwb Selar. Nifer cyfyngedig o gopïau o’r record sydd, ac mae ambell un ar gael i’w prynu nawr ac yn y man mewn lleoliadau arbennig, ac ambell ffair recordiau!

Clawr record Selar1

Roedd Selar1 yn cynnwys caneuon gan Sŵnami, Papur Wal, Tacsidermi, Kathod, Gwilym, Shamoniks ac Eädyth, Sister Wives, Y Dail, magi. a skylrk., gyda gwaith celf unigryw wedi’i greu gan yr artist Lucy Jenkins.

Los Blancos, Ystyr gyda Mr Phormula, Sachasom, Geraint Rhys, Kim Hon, Ffos Goch, Melda Lois, Popeth gyda Leusa Rhys, Ble?, ac Angharad Rhiannon ydy’r artistiaid sydd wedi cyfrannu traciau at record Selar2.

Nawr, mae cyfle i artistiaid gynnig eu henwau a thraciau i gael eu cynnwys ar yr drydedd record yn y gyfres. Rydym yn galw ar artistiaid sydd â diddordeb i gysylltu â ni erbyn dydd Gwener 20 Rhagfyr. Gallwch wneud hynny trwy ebostio  yselar@live.co.uk

“Syniad y record ydy efelychu rhai o recordiau Cymraeg aml-gyfrannog y gorffennol” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.

“Mae traddodiad hir o ryddhau recordiau o’r fath yn y Gymraeg, ac fe wnaethon ni drafod hynny mewn  erthygl mewn rhifyn o gylchgrawn Y Selar yn 2023 [tud. 22]

“Teg dweud bod y rhan helaeth o gerddoriaeth yn cael ei ryddhau’n ddigidol erbyn hyn, ond rydan ni’n awyddus i greu darnau o gelf unigryw i bobl roi ar eu silff a’u trysori. Yn ein barn ni hefyd, mae’n drueni bod llawer o ganeuon gwych ddim yn cael cyfle i ymddangos ar ffurf caled record feinyl neu hyd yn oed CD. Felly y syniad ydy’n bod ni’n rhoi cyfle i ganeuon fyddai ddim yn ymddangos ar record fel arall, i gael eu cynnwys ar record feinyl hyfryd.

“Felly’n hynny o beth, rydan ni am glywed gan artistiaid sydd â chaneuon da, ond sydd a dim bwriad i’w rhyddhau ar unrhyw fformat heblaw’r llwyfannau digidol arferol.”

10 o draciau fydd yn ymddangos ar y record ac mae’n gyfle gwych i artistiaid weld eu cerddoriaeth ar feinyl, ac y gyrraedd cynulleidfa ehangach wrth wneud hynny.

“Yn ddelfrydol rydym yn awyddus i gael cymysgedd o artistiaid profiadol a newydd ar y record, ac hefyd i adlewyrchu’r amrywiaeth wych o arddulliau cerddoriaeth sydd yn y Gymraeg ar hyn o bryd” ychwanegodd Owain.

Yn y cyfamser, os ydach chi’n artist neu band sy’n awyddus i gael eich ystyried yna cysylltwch nawr – yselar@live.co.uk

Gadael Ymateb