Stafell Sbâr KLUST allan canol Tachwedd

Ar ôl iddynt gyhoeddi’r cydweithrediad ym mis Awst, mae gwefan gerddoriaeth Klust a Recordiau Sain wedi cadarnhau bydd yr albwm aml-gyfrannog, ‘Stafell Sbâr Sain: Klust’, yn cael ei ryddhau ar feinyl 12” ar 15 Tachwedd. 

Y gyntaf mewn cyfres o brosiectau a chydweithrediadau cyffrous gan Sain, mae’r record, sydd wedi’i guradu gan Klust, yn tynnu rhai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru at ei gilydd gan gynnwys Talulah, WRKHOUSE, Malan, Siula a Sywel Nyw, a bydd yn cael ei ryddhau fel rhan o becyn ecsgliwsif gyda’r rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Klust. 

Recordiwyd y traciau yn fyw o Stiwdio 1 yn Sain, Llandwrog, dros gyfnod o chwe mis, gyda’r cyfarwyddwr ffilm, Aled Victor, yn bry’ ar wal ym mhob un o’r pum sesiwn. 

Mae’r record wedi’i greu yn defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a’i wasgu ar 200 copi cyfyngedig. Dyluniwyd y clawr gan Elis Povey o draethau Taghazout a Casablanca ym Morocco. 

I lansio ‘Stafell Sbâr’ cyntaf Sain, bydd cyfres fer o dri gig yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Caernarfon a Llundain, gan gynnwys Llwyfan Klust yng Ngŵyl Sŵn ddydd Sadwrn diwethaf, fydd yn gweld artistiaid oddi ar y record yn perfformio’n fyw. 

Ymysg y deg trac, mae gweithiau gwreiddiol, ailgymysgiadau arbennig a fersiynau newydd o draciau eiconig — gan gynnwys Sywel Nyw sy’n rhoi bywyd newydd i un o glasuron Hergest, ‘Harbwr Aberteifi’, a gafodd ei rhyddhau’n wreiddiol ar Recordiau Sain yn y 1970au cynnar.

“Yr harmonïau oedd yn fy atynnu i at y gân yma yn benodol, a’r gobaith oedd y byswn i’n trawsnewid y lleisia’ fel eu bod nhw’n gorwedd ar gordiau cynnes oedd ar adegau yn clasho” eglura Lewys Wyn, sef Sywel Nyw. 

“Ma’ lot o recordiau Cymraeg y 70/80au yn gallu bod yn anodd i weithio hefo gan bo’ nhw ddim wedi’i recordio i clic, felly oedd hon yn gofyn am lot o waith prosesu! O bosib fod y trac rŵan wedi gadael ‘West Coast’ Aberteifi ac yn swnio bach agosach i Concrete Jungle Caerdydd.” 

Mae’n bosib rhag-archebu ‘Stafell Sbâr Sain: Klust’ o wefannau Klust a Sain.