Rhyddhau sengl newydd GAFF

Mae’r cerddor cyfarwydd Alun Gaffey yn ôl gyda’i brosiect diweddaraf, GAFF, ac wedi rhyddhau sengl gyntaf y prosiect.

‘If You Know, You Know’ ydy enw’r trac cyntaf gan GAFF sydd allan ar label Recordiau Côsh.  

Mae Alun yn gyfarwydd fel cyn gitarydd y bandiau chwedlonol, Race Horses a Radio Luxembourg, ac hefyd wedi rhyddhau cerddoriaeth unigol dan ei enw llawn yn y gorffennol gan gynnwys yr albwm ‘Llyfrau Hanes’ yn 2020.  

Ers hynny mae wedi parhau i ysgrifennu ac mae ei arlwy diweddaraf yn dod o dan yr enw, GAFF ac yn ôl Côsh, mae albwm ar y ffordd.

“Mae pawb wedi clywed cerddoriaeth ond ydych chi erioed wedi ei weld o yn llythrennol yn symud o flaen eich llygaid? Methu dweud mwy na hynny rili” meddai Alun. 

“Os da chi’n gwybod, da chi’n gwybod. Os ddim, mae hynny’n oce hefyd!”

Yn ôl y label, bydd y sengl nesaf yn dilyn yn syth ar ôl hon ynghyd â mwy o wybodaeth am yr albwm!