Wrth i’r Brifwyl agosáu, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgelu manylion eu gigs nos yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni, gan gynnwys y lleoliad a nifer o’r prif artistiaid fydd yn perfformio.
Bydd Cowbois Rhos Botwnnog, HMS Morris a Pedair ymysg rhai o’r prif enwau fydd yn chwarae yn gigs Cymdeithas yr Iaith ym Mhontypridd yn ystod wythnos gyntaf mis Awst eleni.
Cyhoeddwyd y manylion gan Dylan Jenkins, trefnydd gigs Cymdeithas yr Iaith eleni, ar raglen Huw Stephens ar Radio Cymru nos Iau diwethaf, 20 Mehefin.
Bydd y gigs yn cael eu cynnal yng Nghlwb Rygbi Pontypridd, Heol Sardis, sydd hanner milltir o Faes yr Eisteddfod a hanner milltir o’r orsaf reilffordd, gyda digwyddiad pob nos o ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod hyd nes y dydd Sadwrn olaf.
“Dwi’n hynod gyffrous i gyhoeddi artistiaid cyntaf lein-yp Gigs Cymdeithas eleni” meddai Dylan Jenkins.
“Dwi’n siŵr y bydd yn wythnos anhygoel o gerddoriaeth amrywiol, gyda rhywbeth i bawb. Dy’n ni’n falch iawn i allu rhoi llwyfan i fandiau ifanc, artistiaid profiadol ac ambell i enw mawr iawn.
“Dy’n ni wedi gweithio’n agos gyda thîm o wirfoddolwyr o’r ardal, a gyda Chlwb Rygbi Pontypridd, i sicrhau fod wythnos anhygoel o gerddoriaeth Cymraeg o’n blaenau fydd yn cyfrannu at brofiad yr Eisteddfod yn ogystal a rhoi hwb i’r gymuned yn lleol a’r clwb”.
Yn agor yr wythnos bydd noson gydag artistiaid Prosiect Forte, prosiect gyda’i wreiddiau yn Rhondda Cynon Taf, ac sy’n rhoi cyfleoedd i artistiaid newydd ar ddechrau eu gyrfaoedd. Bydd y noson yn arddangos artistiaid hen a newydd y prosiect, gan gynnwys Mali Hâf, skylrk. a Francis Rees.
Yn ogystal â’r gerddoriaeth, bydd Bragdy’r Beirdd yn dychwelyd, gan addo noson llawn hwyl a digrifwch dan arweiniad Ifor ap Glyn, a thros 20 o feirdd, ar nos Fawrth 6 Awst.
I gloi’r wythnos, bydd Gareth Potter (Tŷ Gwydr, Traddodiad Ofnus) yn atgyfodi ei barti dawns enwog ef a Mark Lugg o’r 1990au, ‘REU’, fel teyrnged i’r diweddar Emyr Glyn Williams, Ankst. Bydd £5 o werthiant bob tocyn ar gyfer y noson honno yn mynd at elusen. Bydd y noson hefyd yn croesawu DJs blaengar i’r llwyfan, fel Cian Ciaran (Das Koolies, Super Furry Animals), System Sain Tŷ Gwydr, ac yr artistiaid electronig Ffrancon a Keyala.
I ddathlu’r lansiad, bydd nifer cyfyngedig o docynnau wythnos ar gael am gyfnod byr ar wefan Cymdeithas, a rheiny’n rhoi mynediad i’r wyth noson eleni.
Lein-yp noswithiau Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith
Nos Sadwrn 3 Awst
Forte yn cyflwyno
Eadyth
Mali Hâf
skylrk
Francis Rees
Nos Sul 4 Awst
Cowbois Rhos Botwnnog
Mellt
Gillie
Nos Lun 5 Awst
Sybs
Y Dail
Dadleoli
Taran
Nos Fawrth 6 Awst
Bragdy’r Beirdd
Nos Fercher 7 Awst
Pedair
Gareth Bonello
Mari Mathias
Nos Iau 8 Awst
HMS Morris
Breichiau Hir
Ynys
Nos Wener 9 Awst
Rogue Jones
Pys Melyn
Crinc
Nos Sadwrn 10 Awst
REU yn cyflwyno
Das Koolies DJ
Ty Gwydr DJ