Mae Ffos Goch wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, a’i drydedd sengl fel teyrnged i’w ddiweddar gyfaill Brendan Higgins.
‘Mae Plentyn Wedi Marw’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan brosiect y cerddor profiadol o Birmingham, Stuart Estell.
Dyma’r drydedd mewn trioleg o senglau er cof am y bardd Brendan Higgins, neu ‘Big Bren’, oedd yn gyfaill i Estell. Mae’n dilyn ‘Myfiaeth’ a ryddhawyd ddiwedd mis Mai eleni, a chyn hynny, ‘Siopa’ a ryddhawyd ar ddechrau mis Mai.
Daw’r sengl ddiweddaraf ganddo’n fuan ar ôl y newyddion y byddai cân arall Ffos Goch, ‘Rhywbeth o’i Le’, yn ymddangos ar record aml-gyfrannog newydd Y Selar, Selar2, fydd allan ddiwedd mis Gorffennaf.
Bu farw Brendan ym mis Ionawr eleni ac mae’r sengl ddiweddaraf yn seiliedig ar ei gerdd Saesneg, ‘A Child Has Died’ – cerdd bwerus am ryfel, unrhyw ryfel. Bydd unrhyw elw o werthiant y trac yn mynd i’r elusen Hoarding UK, sef yr elusen roedd Brendan Higgins yn arfer gweithio iddynt.