The Gentle Good yn rhyddhau sengl ‘Tachwedd’ 

Mae un o gerddorion mwyaf profiadol a hoffus Cymru, The Gentle Good, yn ôl gyda sengl newydd. 

‘Tachwedd’ ydy enw’r trac sydd allan ers dydd Gwener 22 Tachwedd ac mae’n damaid i aros pryd nes albwm nesaf y cerddor.

Portread seicedelig o Gwm Elan yng nghanolbarth Powys ydy ‘Elan’, sef yr enw ar albwm newydd The Gentle Good (Gareth Bonello). Ysgrifennodd Gareth yr albwm mewn bwthyn oddi ar y grid wrth ymgymryd cyfnod preswyl flwyddyn o hyd ym Mynyddoedd Cambria.

Mae ‘Elan’ yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn archwilio tirwedd, hanes a gwleidyddiaeth y dyffryn anghysbell hwn, a gafodd ei foddi i ddarparu dŵr i Birmingham ar ddiwedd yr oes Fictoria. 

Mae ‘Tachwedd’, y sengl gyntaf oddi ar yr albwm, yn ddathliad seicedelig calonogol o’r hydref ac yn ein hatgoffa i ddal y golau drwy’r tywyllwch.

Ysgrifennwyd y trac gan Gareth Bonello ac fe’i recordiwyd, peirianwyd a chymysgwyd gan Frank Naughton yn Tŷ Drwg Studios. 

Bydd yr albwm newydd ‘Elan’ yn dilyn ym mis Mai 2025, gyda rhagor o senglau i’w rhyddhau dros y misoedd nesaf. 

 

Gadael Ymateb