Sengl Gymraeg ddiweddaraf Llinos Emanuel

Ar ôl rhyddhau ei thraciau cyntaf yn gynharach yn y flwyddyn, mae’r artist cyffrous Llinos Emanuel yn ôl gyda sengl arall. 

Trac Cymraeg ydy’r diweddaraf i’w ryddhau ganddi sef ‘Cadw Ddawns i Mi’ a fydd allan ar 27 Tachwedd. 

Mae’r sengl ddiweddaraf yn ddilyniant i ‘Lover of Mine’ a ryddhawyd ym mis Medi, a’i sengl gyntaf ‘Golden / Unlle’ a ryddhawyd yn gynharach yn y flwyddyn. 

Yn faled dyner a gaeafol, mae ‘Cadwa Ddawns i Mi’ yn adrodd stori’r noson y gwnaeth Llinos gwrdd â’i dyweddi, Twm Dylan am y tro cyntaf. 

Bu i’r ddeuawd ysgrifennu’r gân gyda’i gilydd, ac fe recordiodd Twm y rhannau piano a gitâr fas, a Llinos ei llais hithau, yn eu cartref yng ngorllewin Cymru. 

Wedi’i gyd-gynhyrchu gan Llinos Emanuel a Harry Tarlton, mae’r gân yn llafur cariad ym mhob synnwyr. Mae ‘Cadwa Ddawns i Mi’ yn deyrnged i’r cynnwrf ar teimlad o bosibiliad diddiwedd sy’n dod o gwrdd â rhywun am y tro cyntaf.

Mae cerddoriaeth Emanuel yn gymysgedd o jazz, pop, soul a gwerin gyda chyfuniad o offerynnau acwstig ac electronig wedi’u gwae â haenau o harmonïau lleisiol.

Cafodd sengl gyntaf Llinos Emanuel ei ryddhau ym mis Mehefin a chael clod ar ôl clod. Yn ogystal â ‘Golden’ yn cael ei chynnwys ar ‘Restr A’ BBC Radio Wales, ac ‘Unlle’ yn Drac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru, fe gafodd ‘Golden/Unlle’ adolygiadau positif o gwmpas y byd yn ogystal â chael ei ychwanegu ar gannoedd o restrau chwarae  ar-lein sy’n estyn i gannoedd ar filoedd o wrandawyr. 

Mae ‘Cadwa Ddawns i Mi’ yn dangos doniau lleisiol Llinos wrth iddi ddyfnhau ei threfniadau yn ogystal â’i dehongliad emosiynol yn ei llais.

 

Gadael Ymateb