Cyfarfod Dave Datblygu yn Pontins – fersiwn ‘Deluxe’ o albwm Tara Bandito

Mae Tara Bandito wedi ryddhau ei halbwm newydd sy’n gasgliad o fersiynau byw, a fersiynau wedi’u hailwampio o ganeuon ei halbwm cyntaf llwyddiannus. 

Deluxe ydy enw’r casgliad sydd allan ar label Recordiau Côsh ar ddydd Mercher 27 Tachwedd. 

Wrth baratoi i ryddhau’r casgliad mae Tara wedi gollwng fersiwn Gymraeg newydd o’r trac poblogaidd ‘Unicorn’ dan yr enw ‘Iwnicorn’. 

Diolch am y gefnogaeth

Wedi ffrwydro ar y sin gerddoriaeth yn 2022 gan ryddhau ei halbwm cyntaf hunan-deitlog ar label Recordiau Côsh, teithiodd Tara’r albwm o Gymru i Taiwan, a methu credu’r ymateb atseiniol gan y torfeydd. 

Fel diolch, mae hi’n rhyddhau fersiwn ‘deluxe’ o’r albwm gydag ecstras trydanol, traciau bonws, caneuon wedi’u trosi i’w mamiaith, a dau drac byw wedi’u recordio o gigs bythgofiadwy.

“Daeth recordio’r albwm hwn yn 2021 â diwedd pennod 14 mlynedd o iachâd, galar a hunan ddarganfyddiad yn dilyn marwolaeth fy nhad – yr El Bandito chwedlonol” eglurodd Tara cyn rhyddhau’r albwm gwreiddiol. 

“O unigrwydd bregus ‘6 Feet Under’ i aileni a hunan-wireddu ‘Unicorn’, dyma’r ‘rollercoaster’ creadigol yr oeddwn ei angen i ryddhau fy hun. Roedd yn teimlo mor bersonol a hunangofiannol, doeddwn i byth yn disgwyl i fy nhaith a’r geiriau atseinio gyda chymaint o bobl. Fe helpodd fi i ddod o hyd i fy hun eto a darganfod fy mhwer.

“Cymerodd ddegawdau i mi ddeall ei bod yn iawn bod yn fy ngwir-hunan yn ei holl ffurfiau blêr. Rwy’n falch fy mod wedi cynhyrchu rhywbeth mor anymddiheurol o real y gallai pobl gysylltu gydag o. Gan frwydro gyda’r bywydau gynyddol o ffug yr ydym yn eu byw heddiw, yn llawn ffilterau, ‘fillers’ a ymddangosiadau o hapusrwydd ffug, dyma fi yn fy ffordd fach fy hun yn mynegi, er gwaethaf pwysau cymdeithasol, y gallwn gysylltu trwy gonestrwydd os ydym yn ddigon dewr.”

Eglura Tara bod y fersiwn newydd o’r albwm yn gyfle iddi ddiolch i bawb am eu cefnogaeth i’r casgliad gwreiddiol. 

“Dychwelyd i’r albwm heddiw ac ychwanegu ychydig o bethau amrwd ar gyfer fersiwn ‘deluxe’ yw fy ffordd o ddweud diolch i bawb sydd wedi cefnogi, credu, gwrando, rhannu, dangos a throi’r hyn a ddechreuodd fel ‘grenade’ yn fy mywyd, yn daith hudolus.”

Cyfarfod Dave Datblygu yn Pontins

Bydd ‘Tara Bandito – Deluxe Edition’ ar gael ar ffurf digidol, feinyl, a CD. Mae’r fformatau finyl a CD yn cynnwys fersiwn acwstig o ‘I Do’ a recordiad byw o ‘Datblygu’, sef teyrnged i’r band Cymraeg eiconig o’r un enw. 

Yn y trac byw hwn, mae Tara’n rhannu’r stori am sut daeth i adnabod Dave o’r band am y tro cyntaf, “arwr anferth” iddi, yn Pontins ym Mhrestatyn “am tua 9 o’r gloch y bore heb fod i’r gwely,” a sut yn y pen draw fe’i hysbrydolodd i ddechrau recordio ei cherddoriaeth ei hun. 

Mae’r fersiwn digidol ‘deluxe’ hefyd yn cynnwys fersiynau Cymraeg o’r hits gwreiddiol ‘Woman’ (‘Dynes’) ac ‘Unicorn’ (‘Iwnicorn’) ac ‘I Do’ (‘Wyt Ti?’).

“Roedd egni a neges ‘Unicorn’ a ‘Woman’ yn gwneud i mi fod eisiau eu canu yn fy mamiaith go iawn , felly roeddwn i’n gallu teimlo fy mod wedi gwreiddio’n llwyr yn y geiriau, felly es i nôl i’r stiwdio i’w recordio nhw eto yn Gymraeg, ac oedd yn teimlo’n mor dda” meddai Tara.

“Mae hyn, ynghyd â gallu rhannu rhai o’r perfformiadau byw mwyaf cofiadwy, yn teimlo’n arbennig iawn.”

Mae’r albwm ‘deluxe’ wedi’i ail-weithio, gyda’i holl bethau ychwanegol, yn cael ei ryddhau trwy Recordiau Côsh ac y bydd ar gael i’w ffrydio a’i lawrlwytho ar bob prif lwyfan digidol. Gellir prynu’r fformatau feinyl a CD trwy wefan Tara Bandito. 

Y newyddion da pellach ydy bod caneuon newydd ar y gweill gan Tara, a bwriad i’w rhyddhau blwyddyn nesaf.  

“Rydw i mor hapus i allu rhoi un ddawns olaf i’r albwm hwn, ynghyd â phwmpio egni newydd i mewn iddo, cyn symud ymlaen at synau newydd a datganiadau y flwyddyn nesaf gyda hyd yn oed mwy o wirionedd, unicorns a f*ck yous hefyd. Fedra’i ddim aros” meddai. 

Dyma ‘Iwnicorn’:

Gadael Ymateb