Mae’r Welsh Whisperer wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener 27 Medi.
‘Canu Mewn Cae’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label annibynnol y cerddor, Recordiau Hambon.
Er mai dyma yw sengl gyntaf y Welsh Whisperer ers mis Ionawr eleni, mae ei sŵn canu gwlad gwerinol wedi teithio’n bell dros fisoedd yr haf.
‘Canu Mewn Cae’ yw’r gyntaf mewn cyfres o ganeuon newydd gan y Welsh Whisperer ac mae wedi’i recordio yn Stiwdio Bridgerow yng Nglanaman gyda’r band llawn fu’n cynnwys Andrew Coughlan, basydd a chynhyrchydd Shakin’ Stevens a Cerys Matthews.
Mae sŵn y sengl yn llithro tuag at gyfeiriad canu gwlad Americanaidd a’r arddull ‘outlaw’, gyda Kane O’Rourke ar y ffidil a David Hartley ar y pedal steel yn ogystal â’r band arferol.
Gyda dyddiadur y Welsh Whisperer yn prysur lenwi ar gyfer 2025 yn barod, bydd digon o gyfle i’w weld yn canu mewn cae yn ei ddegfed blwyddyn fel cerddor.