Mae HMS Morris wedi rhyddhau casgliad newydd o draciau’r band wedi’u hail-gymysgu.
Flwyddyn yn ôl fe ryddhawyd yr albwm ‘Dollar Lizard Money Zombie’ gan HMS Morris ar label Bubblewrap Collective. Mae’r albwm wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac fel dau albwm blaenorol y band, mae wedi cyrraedd rhestr fer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.
Er mwyn nodi blwyddyn ers rhyddhau’r albwm, bydd y grŵp yn rhyddhau EP sy’n gasgliad o fersiynau wedi’u hail-gymysgu o ganeuon ‘Dollar Lizard Money Zombie’.
Mae’r casgliad byr newydd allan ar y llwyfannau digidol arferol.
Mae HMS Morris hefyd wedi ychwanegu mwy o ddyddiadau i’w taith hydref eleni sy’n gweld y band yn ymweld â lleoliadau yng Nghymru, Lloegr ac Yr Alban.
Dyddiadau taith hydref HMS Morris:
31 Hydref – Acapela, Caerdydd
01 Tachwedd – The Dog House, Stafford
02 Tachwedd – Ty Pawb, Wrecsam
03 Tachwedd – Future Yard, Birkenhead
10 Tachwedd – The Old Hairdressers, Glasgow