Sengl Ddiweddaraf Tokomololo

Tokomololo ydy’r artist electronic newydd sydd wedi dod i amlygrwydd dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’n ôl gyda sengl arall. 

‘Sylfaen’ ydy enw’r  sengl ddiweddaraf gan Tokomololo, ac mae allan ar label HOSC. 

Yn artist sy’n dod yn adnabyddus am ei berfformiadau byw arloesol sy’n defnyddio lwps a triggers arbennig, mae Tokomololo yn crefftio cerddoriaeth sy’n cael ei hysbrydoli gan artistiaid fel Caribou a Fred Again gan asio seinweddau llawn gweadau ag egni emosiynol.

Darn mwy chilled ydi ‘Sylfaen’ sy’n arddangos ei ddawn i greu cerddoriaeth electroneg ddeinamig gyda ffocws ar greu naws cynnes. 

Mae’r trac yn adlewyrchu ymrwymiad HOSC i dynnu sylw at artistiaid blaengar a lleisiau unigryw mewn cerddoriaeth gyfoes o Gymru.

I ddathlu rhyddhau’r sengl newydd, bydd Tokomololo yn perfformio cwpl o sioeau byw cyn y Nadolig, gan gynnig cyfle i gynulleidfaoedd brofi ei drefniannau cyfareddol yn y cnawd.