Band Pres Llareggub yn cydweithio ar sengl newydd

‘Allan o’r Tywyllwch’ ydy enw’r sengl newydd sydd wedi glanio gan Fand Pres Llareggub, ac sydd unwaith eto’n eu gweld yn cyd-weithio gyda dau o artistiaid eraill amlwg y sin.  

Ers rhyddhau eu halbwm diwethaf, ‘Pwy sy’n Galw’ yn 2021, mae Band Pres Llareggub wedi bod yn brysur yn perfformio ar hyd a lled y wlad – yn headleinio Tafwyl, perfformio yn Nulyn, Gwlad y Basg, FOCUS Wales, Gŵyl Lleisiau Eraill, yr Eisteddfod Genedlaethol, Boomtown a Stadiwm y Principality i enwi llond llaw.

Mae’r sengl newydd, ‘Allan o’r Tywyllwch’, yn gweld y band yn cydweithio unwaith eto gyda’r rapiwr a chynhyrchydd uchel ei barch, Mr Phormula. 

Dyma bartneriaeth hynod lwyddiannus sydd wedi cynhyrchu rhai o draciau fwyaf poblogaidd y band megis ‘Croeso’ a ‘Gweld y Byd Mewn Lliw’. Yn ymuno gyda Mr Phormula ar y trac hefyd mae’r gantores, Parisa Fouladi.

Parisa yn adio lot

Owain Roberts sy’n arwain y band pres cyfoes a dywed ei fod yn falch iawn o’r cyfle i gyd-weithio gyda Parisa. 

“Mae Parisa Fouladi wedi bod yn uchel ar fy rhestr o gantorion i gydweithio efo ers sbel bellach a dwi wrth fy modd fod o wedi gweithio allan mor dda” meddai Owain.  

“Daeth pethau at ei gilydd yn hwylus iawn – fe gawsom ni lot o hwyl yn ’sgwennu gyda’n gilydd a dwi’n meddwl fod ei llais hi’n adio gymaint i naws y trac.” 

Recordiwyd y gân dros nifer o sesiynau ym Mhenmaenmawr, Manceinion a Chaerdydd. Cawn glywed yma, nid yn unig band pres, ond côr arbennig hefyd.

Yn benodol, grŵp lleisiol y Welsh Voices dan arweiniaeth Iori Haugen – côr sydd wedi cydweithio â nifer o sêr yn y byd cerddorol gan gynnwys Katherine Jenkins, Bastille a Hans Zimmer.

“Oddo’n bleser gallu cael sesiwn gyda’r Welsh Voices” ychwanega Owain. 

“Criw o leisiau hynod a cherddorion anhygoel ac mae eu cael ar y trac yma wedi adio gymaint i’r elfen epig odda’ ni’n ceisio ei gyfleu.” 

Cafodd y trac ei gymysgu gan Russ Hayes yn Orange Sounds, Penmaenmawr gyda Llŷr Pari yn gyfrifol am y gwaith peiriannu ychwanegol yng Nghaerdydd. 

Daw’r gwaith celf gan yr artist, Andy Garside, a bydd fideo, wedi’i gyfarwyddo gan Rob Zyborski, yn dilyn yn fuan. Wrth i’r band ddathlu 10 mlynedd ers eu gig cyntaf flwyddyn nesaf, mae Band Pres Llareggub yn gweithio tuag at ryddhau albwm newydd yn fuan yn 2025. 

Gadael Ymateb