9Bach yn ôl wedi cyfnod hesb

Mae’r band gwerin cyfoes poblogaidd, 9Bach, yn ôl gyda chynnyrch newydd cyntaf ers pum mlynedd. 

‘Llaw 101 Mix’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ganddynt ar label Real World. Mae’r sengl newydd wedi’i gyhoeddi’n ecsgliwsif ar safle Bandcamp y band

Wrth ryddhau’r sengl newydd mae’r band hefyd wedi cyhoeddi cyfres o gigs y byddan nhw’n perfformio ynddynt yn ystod misoedd Mai a Mehefin eleni. 

Mae 9Bach yn cael gu gweld fel un o fandiau mwyaf arloesol Cymru, ac wedi sefydlu eu hunain fel grym creadigol ar y sin gerddorol. Yn cael eu harwain gan Lisa Jên Brown, maent wedi torri tir newydd wrth gyfuno treftadaeth gerddorol gyda synau cyfoes. 

Yn 2025 mae’r band yn cyrraedd llwyfan hollol newydd ar eu taith gerddorol trwy gydweithio gydag Andy Gangadeen – cerddor sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda bandiau amlwg iawn gan gynnwys Chase & Status a Lava La Rue. ‘Llaw 101 Mix’ ydy’r cyfle cyntaf i gael blas o’r bartneriaeth gerddorol newydd yma.

Mae’r cynnyrch newydd yma’n tynnu’n helaeth ar wreiddiau personol Lisa a’i gŵr, a gitarydd 9Bach, Martin Hoyland, yn symudiad ‘acid house’ y 1980au a 1990au. Er nad oedd Lisa a Martin yn adnabod ei gilydd bryd hynny, mae’r ddau wedi cysylltu ar lefel lle’r oedd y bîts pwerus hynny mewn parti warws yn Llundain neu rave mewn chwarel yng Ngogledd Cymru yn eu cludo’n ôl i fan hapus a rhydd.

Mae’r broses recordio ar gyfer y deunydd a phartneriaeth newydd yn wahanol hefyd. Recordiwyd albwm diwethaf 9Bach, ‘Anian’, yn stiwdio Real World, ond mae’r cynnyrch newydd wedi’i recordio gan Lisa, Martin ac Andy mewn gwahanol fythynnod yng Ngogledd Cymru, gyda stiwdio symudol 101 Andy, stiwdio 9Bach ym Methesda a Stiwdio 101 Andy yn Bow, ynghyd a chyfraniadau aelodau eraill y band, Dan Swain (bas) a Mirain Haf Roberts (llais a phiano) yn ychwanegu eu sglein o’u stiwdio’s cartref yn Llundain a Chaerdydd. 

“Y tro hwn dwi wedi cyfansoddi caneuon wrth wrando ar ddilyniannau drwm Andy fel ysbrydoliaeth” meddai Lisa. 

“Mae’r dda i amrywio pethau gydag agwedd ychydig yn wahanol er mwyn tynnu rhywbeth newydd allan ohona i. I mi, mae caneuon wastad wedi dechrau gyda’r piano, ond dwi wedi caru gallu cael bît dawns a feib wrth i mi syllu ar ddalen wag!”

Gigs Mai a Mehefin 9 Bach:

09 Mai – Tafarn y Plu, Llanystumdwy

10 Mai – Llwyn Isaf, FOCUS Wales, Wrecsam 

06 Mehefin – Neuadd Ogwen, Bethesda

10 Mehefin – The Grace, Llundain

Gadael Ymateb