Mae’r band Cymraeg o Sheffield, Sister Wives, yn ôl gyda’u sengl ddiweddaraf.
‘YnCanu’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y pedwarawd ac mae allan ar label Recordiau Libertino.
Mae gan bob pentref ei stori ysbrydol ei hun, ac mae ‘YnCanu’ yn dod â’r chwedl arswydus am ysbryd Atomfa’r Wylfa yn fyw.
Mae gweithwyr y safle wedi sibrwd ers tro am bresenoldeb dirgel Rosina – cantores opera o Seland Newydd – gyda’i halawon brawychus yn atseinio trwy’r orsaf, yn ôl pob tebyg.
Wedi’i chanu yn yr iaith Gymraeg, mae sengl newydd Sister Wives yn plethu stori iasol Rosina gyda llais swynol Donna Lee o’r band. Gyda’i geiriau ofnus a’i gyfansoddiad cynhyrfus, mae ‘YnCanu’ yn ein hatgoffa am ba mor fregus yw bywyd.