Sengl newydd Siula – ‘Fallen Angel’

Mae’r ddeuawd pop sinematig o Gaerdydd, Siula, wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Fallen Angel’ – cyfuniad cysurus o densiwn ac emosiwn.

Yn plethu synths miniog, lleisiau haenog, a geiriau trawiadol, mae’r trac yn cyfleu’r cysylltiad coll gall ddatblygu mewn perthynas agos. 

“Roeddwn i eisiau canu o’r ddwy ochr mewn perthynas dywyll,” meddai Iqra Malik o’r band.

“Mae’n ymwneud â cholli gafael ar berthynas arbennig a’r hiraeth a ddaw o hynny.”

Mae’r sengl allan ar Libertino, ac yn damaid i aros pryd cyn i albwm gyntaf Siula gyrraedd cyn diwedd y flwyddyn. 

Dyma’r fideo ar gyfer y trac newydd sydd wedi’i ffilmio a golygu gan Dylan Malik Johns:

Gadael Ymateb